Mae Aelod Cynulliad wedi gwrthddweud tystiolaeth gan y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones yn y cwest i farwolaeth Carl Sargeant.

Cafwyd hyd i gorff y cyn-aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru yn crogi yn ei gartref yng Nghei Conna ar Dachwedd 7, 2017, ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael ei ddiswyddo yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol.

Roedd y cwest i’w farwolaeth wedi ail-ddechrau heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 8) ar ôl cael ei ohirio am gyfnod amhenodol ym mis Tachwedd y llynedd. Roedd yn dilyn penderfyniad i alw Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, yn ôl i roi tystiolaeth ac i ganiatáu i her gyfreithiol gael ei wneud.

Roedd Carwyn Jones wedi dweud ar y pryd bod “gofal bugeiliol” wedi cael ei gynnig i Carl Sargeant ar ôl iddo gael ei ddiswyddo a bod Aelod Cynulliad Dyffryn Clwyd Ann Jones wedi cael y dasg o gysylltu gydag o.

Ond yn ystod y cwest yn Neuadd y Sir yn Rhuthun heddiw dywedodd Ann Clwyd nad oedd hi’n credu ei bod wedi cael rôl swyddogol.

Dywedodd ei bod wedi cael neges gan Matt Greenough, prif ymgynghorydd arbennig Carwyn Jones, ar y noson pan gafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo. Yn y neges roedd yn dweud nad oedd Carl Sargeant wedi ymateb yn rhy dda i’r penderfyniad i’w ddiswyddo ac roedd wedi gofyn i Ann Jones “roi caniad” iddo dros y penwythnos.

Dywedodd Ann Jones wrth y cwest ei bod wedi ffonio ac anfon neges at Carl Sargeant ond nad oedd hi wedi cael ateb ganddo tan ddydd Llun, ddiwrnod cyn ei farwolaeth.

Ychwanegodd ei bod wedi cael galwad ffôn gan Carwyn Jones y diwrnod wedi marwolaeth Carl Sargeant.

“Dywedodd ei fod am ddweud wrth y wasg ei fod wedi gofyn i fi roi gofal i Carl. Dw i’n cofio dweud wrtho ‘peidiwch â gwneud hynny, nid dyna oedd fy nealltwriaeth i’.”

Wrth roi tystiolaeth ym mis Tachwedd y llynedd roedd Carwyn Jones wedi dweud bod gan yr AC ddwy rol – i fod yn gysylltiad rhwng y grŵp Llafur a Carl Sargeant ac i roi gofal bugeiliol iddo hefyd.

Ond mae Ann Jones wedi dweud nad dyna oedd ei dealltwriaeth hi o’r cais i gysylltu â Carl Sargeant.

Mae disgwyl i Carwyn Jones, a oedd wedi camu o’i swydd yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr y llynedd, a Matt Greenough roi tystiolaeth yn ddiweddarach heddiw.