Mabon ap Gwynfor sydd wedi cael ei ddewis i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad nesa’r Cynulliad yn 2021.

Fe fydd yn herio Dafydd Elis-Thomas, sydd bellach yn Aelod Cynulliad annibynnol ar ôl gadael y blaid yn 2016.

Fe ddaeth i frig rhestr ymgeiswyr oedd yn cynnwys Simon Brooks, Nia Jeffreys, Elin Roberts, Llywelyn Rees ac Elin Walker Jones.

Traddododd pob un o’r ymgeiswyr araith fore heddiw, cyn i aelodau’r blaid fynd ati i fwrw eu pleidlais.

Dafydd Elis-Thomas

Mae Dafydd Elis-Thomas, sy’n gyn-arweinydd Plaid Cymru ac yn gyn-Lywydd y Cynulliad, wedi bod yn Aelod Cynulliad i Ddwyfor Meirionnydd ers sefydlu’r Cynulliad 20 mlynedd yn ôl.

Yn yr etholiad Cynulliad diwethaf yn 2016 roedd ganddo fwyafrif o 6,500 o bleidleisiau.

Fe adawodd y Blaid yn 2016 ac mae bellach yn Weinidog yn Llywodraeth Lafur Cymru.

Mabon ap Gwynfor

Mae Mabon ap Gwynfor yn gynghorydd ar Gyngor Sir Ddinbych, yn cynrychioli ward Llandrillo.

Mae’n fab i Guto Prys a Sian Elis ap Gwynfor, ac yn ŵyr i Gwynfor Evans.

Yn fab i weinidog, cafodd ei fagu mewn amryw ardaloedd ledled Cymru, a’i addysgu yn ysgolion Tal-y-bont a Chwmann, ac ysgolion uwchradd Dyffryn Teifi, Gŵyr ac Ystalyfera, cyn mynd yn ei flaen i Brifysgol Bangor.

Ar ôl cyfnod yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, aeth yn Swyddog y Wasg i Simon Thomas ac Elin Jones yng Ngheredigion.

Fe fu’n ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth yn 2004; sedd seneddol Brycheiniog a Maesyfed yn 2005; sedd Cynulliad Ceredigion yn 2007; ac yn gadeirydd ymgyrch seneddol Elfyn Llwyd yn 2010.

Fe fu’n ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru yn etholaeth De Clwyd yn 2011 ac yn 2016, ac yn ymgeisydd seneddol yr etholaeth yn 2015.

Diddordebau eraill

Fe fu’n un o gyfarwyddwyr Theatr Genedlaethol Cymru rhwng 2012 a 2015.

Bu’n rhan o ymgyrch ‘Ie Dros Gymru’ yn Refferendwm datganoli i Gymru, 1997, a gweithiodd yn wirfoddol am hanner blwyddyn ar ymgyrch Rhodri Glyn Thomas yn ystod etholiadau San Steffan 1997.

Bu’n bennaeth cyfathrebu Antur Teifi, ac yna’n rheolwr Tŷ Siamas yn Nolgellau am gyfnod.

Ar ôl cyfnod yn rheolwr Gogledd Cymru Sefydliad Prydeinig y Galon, dychwelodd i’r byd gwleidyddol yn brif ymchwilydd yr Aelod Cynulliad Llyr Gruffydd.

Ymateb

Yn dilyn cyhoeddi’r canlyniad, mae nifer o bobol, gan gynnwys sawl gwrthwynebydd yn y ras, wedi llongyfarch Mabon ap Gwynfor ar ei ymgeisyddiaeth.