Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i ymosodiad rhyw ar ferch 12 oed mewn ardal goediog ger Caerffili.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar ddydd Sul, Mehefin 16 mewn parc sglefrio ar ystad Graig-yr-Rhacca.

Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn tal yn ei 20au, sydd o gorffolaeth denau.

Mae ganddo fe wallt brown golau, sydd wedi’i eillio ar yr ochrau.

Ar y pryd, roedd e’n gwisgo siorts glas a chrys-T.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.