Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad mewn archfarchnad yn y Trallwng.

Fe ddigwyddodd wrth i ddynes oedrannus siopa yn Aldi yn y dref ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 5).

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â chwpl oedd yn y siop ar y pryd, ac wedi cyhoeddi lluniau ohonyn nhw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.