Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cymharu ymosodiadau digrifwr ar yr iaith Gymraeg gydag Islamoffobia a gwrth-Semitiaeth.

Roedd Aled Roberts yn siarad ar Newyddion 9 neithiwr (nos Iau, Gorffennaf 4) wrth ymateb i sylwadau a wnaeth y digrifwr a’r actor, Omid Djalili, am y Gymraeg yn ddiweddar, gan achosi ffrae fawr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd y gŵr o Lundain, sydd o dras Iranaidd, wedi cyhoeddi llun ar Twitter nos Sul (Mehefin 30) yn tynnu sylw at arwydd sy’n dangos y ffordd i bentref Nantgaredig a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Omid Djalili: “Mae yna bethau gwaeth na bod yn Gymro, yn dyslecsig ac yn dioddef o atal dweud. Ond dim llawer.”

Mewn ymateb, dywedodd Aled Roberts ei fod wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad gwrth-Gymraeg yn ddiweddar.

Ac roedd yn cymharu sylwadau Omid Djalili gyda rhagfarn yn erbyn Islam ac Iddewon.

“Os ydyn ni’n siarad am Islamoffobia, os ydym yn siarad am wrth-Semitiaeth, mae’r un math o fater y mae’n rhaid i gymdeithas ddelio ag o,” meddai Aled Roberts ar Newyddion 9.

“Fel siaradwr Cymraeg, doeddwn i ddim yn ei weld yn arbennig o ddoniol.”

Dyw Omid Djalili ddim wedi ymddiheuro am ei sylwadau.