Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i gŵyn am benderfyniad prifysgol i gael gwared ar ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg.

Mae rheolwyr Prifysgol Bangor dan y lach oherwydd y bwriad i ddiswyddo pump o staff yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol ym mis Medi.

Dyma’r adran sy’n hyfforddi darpar athrawon ac mae’r pump sy’n colli eu gwaith i gyd yn cynnig eu cyrsiau yn ddwyieithog.

Yn ôl gwefan y brifysgol mae gan yr Ysgol 42 o ddarlithwyr a degau o swyddogion cefnogol.

Mae Prifysgol Bangor yn ceisio canfod £5 miliwn o arbedion, ac yn dweud bod angen y cwtogi oherwydd eu bod yn denu llai o fyfyrwyr.

Ym mis Mai roedden nhw dan y lach am dorri swyddi yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd – sy’n hyfforddi nyrsys – ac yna hysbysebu pedair swydd hyfforddi nyrsys heb fod y Gymraeg yn hanfodol.

Roedd y brifysgol wedi cael gwared ar swydd hyfforddi nyrsus cyfrwng Cymraeg ym maes anabledd dysgu.

“Targedu’r Gymraeg”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni bod yna batrwm o ddileu swyddi cyfrwng Cymraeg ac yn cyhuddo’r rheolwyr o “dargedu’r Gymraeg” wrth fynd ati i ganfod arbedion.

Fe ddylai Comisiynydd y Gymraeg “gynnal ymchwiliad eang i weithredoedd diweddar y Brifysgol: mae patrwm yn datblygu o doriadau sy’n targedu’r Gymraeg. Mae’n edrych yn fwriadol,” meddai Gwerfyl Roberts o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae cynllunio’r gweithlu yn gwbl greiddiol i’r ymdrech [gan Lywodraeth Cymru] i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Os yw Prifysgol Bangor yn esgeuluso’r Gymraeg yn y fath fodd, maen nhw’n mynd i rwystro’r genedl gyfan rhag adfywio’r Gymraeg.”

Comisiynydd yn ymchwilio

Mae swyddogion Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i benderfyniadau diswyddo staff Prifysgol Bangor.

“Rydym wedi derbyn cwynion am doriadau staffio academaidd ym Mhrifysgol Bangor,” meddai llefarydd y Comisiynydd.

“Rydym wedi agor ymchwiliad i un o’r materion y cwynir amdano ac yn ystyried y ffeithiau er mwyn i’r Comisiynydd ystyried agor ymchwiliad ar sail tystiolaeth a dderbyniwyd am fater arall.”

Er i ni holi, ni chafwyd ymateb gan Brifysgol Bangor.