Mae rhagor o gynghorau cymuned a thref wedi datgan eu cefnogaeth tros annibyniaeth i Gymru gan ddod â’r cyfanswm hyd yma i 11.

Bore ddoe mi adroddodd golwg360 bod cynghorau tref a chymuned Caernarfon, Llanuwchllyn, a Thrawsfynydd wedi atseinio’r alwad am Gymru annibynnol.

Ac ers hynny mae wedi dod i’r amlwg bod tri chyngor cymuned arall – cynghorau Llanystumdwy, Pwllheli a Bontnewydd – yn cefnogi annibyniaeth hefyd.

Cyngor tref Machynlleth oedd y cyntaf i ddatgan eu cefnogaeth, ac mi ddilynodd cynghorau Porthmadog a Blaenau Ffestiniog yn fuan wedi hynny.

Caernarfon

Daeth datganiad Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon tros annibyniaeth, flwyddyn yn union i’r wythnos y cafodd Tywysog Charles ei goroni yn y dref.

Ac mi fydd grŵp ymgyrchu, YesCymru yn cynnal ‘Gorymdaith dros Annibyniaeth’ yng Nghaernarfon ar Orffennaf 27. Cafodd gorymdaith debyg ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mai ac mi ddenodd filoedd o bobl.