Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi derbyn gwobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019 neithiwr (nos Fercher. Gorffennaf 3).

Mae hi’n cael ei hystyried fel gwobr amgueddfa fwyaf y byd ac mae Sain Ffagan yn derbyn £100,000 oherwydd y llwyddiant.

Daeth yr amgueddfa o flaen pedair arall oedd ar y rhestr sef HMS Caroline ym Melffast, y Nottingham Contemporary, Pitt Rivers yn Rhydychen, a’r V&A yn Dundee.

Yr artist Jeremy Deller wnaeth gyflwyno’r wobr i Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson yn y seremoni yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain.

“Cofeb i ddemocratiaeth amgueddfa”

Y beirniaid ar gyfer y wobr oed yr artist David Batchelor, y darlledwr a newyddiadurwr Brenda Emmanus, Prif Weithredwr Glasgow Life Bridget McConnell a Bill Sherman, Cyfarwyddwr Sefydliad Warburg.

Yn ôl Stephen Deuchar, Cyfarwyddwr y Gronfa Gelf a chadeirydd y beirniaid “mae Sain Ffagan yn byw, yn anadlu ac yn ymgorffori diwylliant a hunaniaeth Cymru.

“Mae’n gofeb i ddemocratiaeth amgueddfa fodern, ac mae wedi cael ei thrawsnewid trwy brosiect datblygu mawr sy’n cynnwys cyfranogiad uniongyrchol cannoedd o filoedd o ymwelwyr a gwirfoddolwyr.

Fe gwblhaodd Sain Ffagan prosiect Creu Hanes gwerth £30m y llynedd a thrwy gydol y prosiect fe groesawodd yr amgueddfa tair miliwn o ymwelwyr.

“Mae hawl gan bob dinesydd gymryd rhan mewn diwylliant,” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru.

“Rwy’n falch iawn bod Sain Ffagan wedi cael ei chydnabod gan feirniaid Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf am waith yr Amgueddfa, i roi cyfle i bawb ymgysylltu â diwylliant mewn ffordd ystyrlon.”