Mae tri chyngor tref neu gymuned wedi pleidleisio o blaid yr ymgyrch annibyniaeth yr wythnos hon, gan fynd â’r cyfanswm ledled y wlad i wyth.

Cyngor Tref Caernarfon, Cyngor Cymuned Llanuwchllyn, a Chyngor Cymuned Trawsfynydd yw’r diweddaraf i gefnogi, wedi i gynghorwyr lleol Machynlleth, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog, Nefyn a Bethesda wneud hynny eisoes.

Daeth pleidlais Caernarfon ar Orffennaf 2 bron iawn union 50 mlynedd i ddyddiad arwisgo’r Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon ar Orffennaf 1, 1969. Datganodd Llanuwchllyn ei gefnogaeth ar yr un diwrnod a Chaernarfon hefyd.

A neithiwr (dydd Mercher, Gorffennaf 2), mae’r wythfed Cyngor, sef Trawsfynydd wedi bwrw pleidlais sy’n golygu eu bod nhw hefyd yn cefnogi ymgyrch YesCymru.

“Cam pwysig”

“Mae’n wych a dw i’n llongyfarch nhw yn fawr am gymryd cam pwysig ymlaen ag am sylweddoli y byddai Cymru yn well yn rheoli ei hun nag yn San Steffan,” meddai Sion Jobbins o YesCymru wrth golwg360.

“Ni’n dechrau paratoi tir at pan fydd yr Alban yn cael refferendwm, ac mae’n rhaid i Gymru fod yn barod a dechrau creu pethau ar lawr gwlad, neu fe fyddwn ni’n cael ein dal allan.

“Ein gobaith ni yw gweld mwy o gynghorau yn cefnogi a chael cynghorau a phobol sydd ddim yn gefnogol, neu sydd ddim yn siŵr, i drafod annibyniaeth yn gynt ac yn gynt.”

Gorymdaith YesCymru gydag All Under One Banner yw digwyddiad mawr nesaf yr ymgyrch. Maen nhw wedi rhannu dros 20,000 o bamffledi o ddrws i ddrws ar gyfer hwnnw, meddai Sion Jobbins.

“Rydyn ni’n dechrau dod yn agos at gan mil o bamffledi wedi cael eu dosbarthu. Beth sy’n grêt am yr ymgyrch ei fod yn digwydd ar lawr gwlad, heb gefnogaeth ariannol, gyda phobol wir yn credu ynddi.”