Bu farw’r actor Glyn Houston ddydd Sul (Mehefin 30). Roedd yn 93 oed ac wedi treulio bron i saith degawd yn actio ar lwyfannau ac ar sgrin.

Yn dilyn cyfnod yn yr Ail Ryfel Byd, ble byddai’n gwneud stand-yp i’w gyd-filwyr, fe ddaeth Glyn Houston o Glydach yn adnabyddus i’r byd ehangach yn y 1950au.

Fe ymddangosodd ar y sgrin am y tro cyntaf yn ffilm The Blue Lamp yn 1950 a chwaraeodd rannau amrywiol mewn dros 80 o ffilmiau yn ystod ei yrfa.

Bu’n gweithio ym myd radio a theatr hefyd, a daeth yn seren ar y teledu o’r 1960au i’r 1990au.

Ef oedd cariad ar-sgrin cyntaf yr actores Joan Collins ar ei ffilm gyntaf yn y sinema yn Turn The Key Softly ac fe weithiodd ochr yn ochr ag enwau fel Clark Gable, Alan Ladd a Lana Turner.

Yn yr 1970au fe ymddangosodd yn y rhaglenni teledu My Good Woman, A Horseman Riding By, Inspector Morse, It Ain’t Half Hot Mum, Minder, Doomwatch yn ogystal ag actio’r cymeriad Det Supt Jones yn Softly, Soflty.

Fe ymddangosodd yn Doctor Who ddwywaith fel Professor Owen Watson.

Ei frawd bach oedd y cyfarwyddwr ffilmiau, Donald Houston, ac fe ddaeth yn ffrindiau agos gydag actorion Cymeieg eraill fel Richard Burton a Stanley Baker.

Fe enillodd Glyn Houston wobr arbennig BAFTA Cymru yn 2008 am ei gyfraniad i’r byd actio.