Mae dau ddyn wedi cael eu cadw yn y ddalfa yn dilyn cyrchoedd cyffuriau yng nghymoedd y de.

Aeth Yousef Woolcock, 36, Kevin Skinner, 36, gerbron ynadon ym Merthyr Tudful, wedi’u cyhuddo o droseddau’n ymwneud â chocên a heroin.

Mae Yousef Woolcock wedi’i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên, bod â chocên yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, ac o wyngalchu arian.

Mae Kevin Skinner wedi’i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên a heroin.

Cyrchoedd

Cafodd y ddau ddyn eu harestio yn dilyn cyrchoedd yn y Barri yr wythnos hon.

Roedd y cyrchoedd yn rhan o ymdrechion yr heddlu i atal cludo cyffuriau i gymoedd y de.

Cafodd yr heddlu hyd i hanner cilo o heroin a chocên fore ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 2)