Mae clwb tennis yn nhref Llanelli yn dweud eu bod yn “eithriadol o falch” wrth i un o’u haelodau gystadlu yn Wimbledon yr wythnos hon.

Evan Hoyt yw’r chwaraewr tenis hŷn cyntaf o Gymru i fentro i Wimbledon ers Rebecca Llewellyn o Gaerdydd yn 2006.

Mae disgwyl i’r gŵr, 24, o Dre’r Sosban gystadlu yn rownd gyntaf parau’r dynion ddydd Iau (Gorffennaf 4), lle bydd yn paru gyda Luke Johnson er mwyn herio’r ddau Sbaenwr, Fernando Verdasco a Pablo Andujar.

Ynghanol y dorf yn cefnogi’r Cymro fydd cynrychiolaeth o Glwb Tenis a Sboncen Llanelli, y clwb sy’n dal i ddenu Evan Hoyt adref o bryd i’w gilydd.

“Mae’n dal i fod yn weithgar o fewn y clwb,” meddai Mark Westcott, cadeirydd y clwb a chyfaill i’r teulu, wrth golwg360.

“Mae’n dal i ddychwelyd i’r clwb pan mae’n gallu a bu’n cynrychioli’r clwb y llynedd yn aelod o un o’r timoedd tenis sydd gyda ni.”

Y Cymro o Fecsico

Cafodd Evan Hoyt ei eni yn ninas Torreón yng ngogledd Mecsico – ei dad, Tom, yn hanu o dalaith Michigan yn yr Unol Daleithiau a’i fam, Cathy, yn Gymraes o Lanelli.

Fe ddychwelodd y teulu i dref enedigol y fam pan oedd Evan Hoyt yn blentyn, a byth ers hynny maen nhw wedi bod â chysylltiad agos â’r clwb tenis lleol.

“Mae Tom yn is-gadeirydd y clwb,” meddai Mark Westcott. “Mae’n weithgar iawn ac yn gapten ar un o’r timoedd.

“Roedd y fam yn ysgrifenyddes am nifer o flynyddoedd. Pan gafodd y clwb ei adnewyddu pum mlynedd yn ôl diolch i grant gan Lywodraeth Cymru, hi wnaeth ddwyn y maen i’r wal.”

Chwaraewr sy’n “gweithio’n galed”

Nid eleni yw’r tro cyntaf i Evan Hoyt gystadlu yn Wimbledon. Yn 2011, cyrhaeddodd ail rownd y bencampwriaeth ar gyfer chwaraewyr iau.

Yn ystod yr un flwyddyn, roedd yn aelod o’r tîm a enillodd Bencampwriaeth Iau Cwpan Dafis am y tro cyntaf erioed i wledydd Prydain, ac yn sgil hynny cafodd gyfle i ymarfer â’r chwaraewr tenis byd enwog, Rafael Nadal.

Ychwanega Mark Westcott mae’r parodrwydd i “weithio’n galed” yw cyfrinach llwyddiant Evan Hoyt.

“Mae holl ymdrechion y blynyddoedd yn talu ar eu canfed iddo.”