Mae Prifysgol Caerdydd wedi gorfod talu iawndal o dros £9,000 i fyfyriwr a gafodd ei ddiarddel o gwrs gofal iechyd am wrthod cael brechiad.

Roedd y Brifysgol wedi sylweddoli ei fod wedi methu rhoi gwybodaeth ynglŷn â gofynion imiwneiddio’r cwrs.

Roedd y myfyriwr hefyd wedi llenwi holiadur ar ôl cofrestru ar y cwrs oedd yn datgan ei fod yn gwrthod pigiadau, ond doedd y brifysgol heb adolygu hynny’n iawn.

Cafodd y myfyriwr, sydd ddim i gael ei enwi, ei drosglwyddo i raglen arall, ar ôl i Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y brifysgol benderfynu y byddai cadw’r myfyriwr ar y cwrs yn rhoi eu hiechyd a iechyd y claf mewn peryg.

Ond fe gefnogodd Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol gwynion y myfyriwr yn erbyn y penderfyniad, gan ddweud bod y brifysgol wedi caniatáu i’r myfyriwr gofrestru ar raglen na allai fod wedi’i chwblhau oherwydd y gofynion iechyd.

Yn dilyn hyn, fe argymhellodd y Swyddfa fod y brifysgol yn cynyddu eu cynnig iawndal cychwynnol o £5,000 i £9,342 er mwyn talu’n ôl ei ffi am lety myfyrwyr.

Ond ni chefnogodd y dyfarnwyr apêl y myfyriwr yn erbyn cael ei ddiarddel o’r cwrs.