Mae dyn 80 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes 77 oed yn Aberaeron yng Ngheredigion.
Fe fydd Frank Long yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth (Gorffennaf 2).
Cafwyd hyd i gorff Mavis Long yn ei chartref yn ardal Pennant ger Aberaeron ar Fai 10.