Mae adroddiad damniol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi codi pryderon am yr amodau “annerbyniol” mae nifer o gleifion yn eu hwynebu yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd.

Roedd cleifion wedi gorfod aros mwy na 20 awr yn yr uned asesu damweiniau ac achosion brys yn ysbyty mwyaf Cymru a hynny yn aml mewn amodau anghyfforddus, meddai’r adroddiad.

Dywedodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) bod cleifion yn gorfod eistedd ar gadeiriau pan oedden nhw mewn “poen cymedrol neu sylweddol” yn y lolfa ac mai “ychydig iawn o breifatrwydd oedd ar gael i gleifion”.

Roedd AGIC wedi cynnal arolwg dirybudd o’r ysbyty rhwng Mawrth 25-27 eleni. Ychwanegodd bod rhai cleifion oedd yn aros am driniaeth heb fynediad at ddŵr yfed ac nad oedden nhw bob amser yn cael mynediad at fwyd.

Dywedodd staff wrth yr arolygwyr eu bod nhw yn aml mewn dagrau oherwydd y diffyg amser oedd ganddyn nhw i ofalu am gleifion, a hynny oherwydd prinder staff. Serch hynny mae adroddiad AGIC wedi canmol y gofal a oedd yn cael ei roi gan staff yr uned.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, sy’n gyfrifol am Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi cytuno i gynllun i gyflwyno “gwelliannau sylweddol” wrth ymateb i ganfyddiadau adroddiad AGIC.