Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio Gerald Corrigan.

Cafodd y cyn-ddarlithydd 74 oed ei saethu gan fwa croes yn ei gartref ym Môn ar Ebrill 19. Bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty ar Fai 11.

Fe ymddangosodd Terrence Michael Whall, 38, o Fryngwran, Ynys Môn drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 1).

Mae disgwyl iddo fynd gerbron y llys ar Fedi 5 ar gyfer gwrandawiad cychwynnol ac i gyflwyno ple.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i’r achos yn ei erbyn ddechrau ar Ionawr 14.