Mae cynrychiolwyr o lywodraethau datganoledig gwledydd Prydain wedi dod ynghyd i fynegi pryder am effaith bosib diffyg cyllido ar wasanaethau rheng flaen yn y sector cyhoeddus.

Mae Rebecca Evans o Lywodraeth Cymru, Derek Mackay o Lywodraeth yr Alban, a Sue Gray o Lywodraeth Gogledd Iwerddon yn dweud bod angen cyllido’r newidiadau arfaethedig i bensiynau’r sector yn llawn.

Maen nhw wedi ysgrifennu at Liz Truss, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, gan ddweud eu bod yn teimlo’n “bryderus am yr holl broses o werthuso cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus”.

Y llythyr

Yn eu llythyr, mae’r tri yn nodi eu bod yn “anghytuno’n sylfaenol â’r ffordd y dyrannwyd cyllid ychwanegol ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig”.

Dydy’r lefel cyllid ddim yn “ddigon i ariannu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â’r newidiadau”, meddai’r tri.

Maen nhw’n dweud bod hyn “yn annerbyniol ac yn anghyson â’r Datganiad Polisi Cyllid”, a’u bod yn poeni am “ddiffyg tryloywder” y broses o gyflwyno’r newidiadau sydd, meddai’r tri, “yn tanseilio ac yn difrïo fframwaith gwariant cyhoeddus sefydledig y DU”.

Wrth orfod neilltuo cyllid ychwanegol, mae’r gwledydd datganoledig yn dweud fod yr arian hwnnw wedi’i dynnu o flaenoriaethau eraill, gan gynnwys effeithiau Brexit arnyn nhw.

‘Cyfarfod’

Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i ofyn am gyfarfod o’r gwledydd datganoledig gyda Llywodraeth Prydain i drafod “goblygiadau llawn” y newidiadau o dan y drefn “anghydfodau cyllidol”.

“Gobeithio y bydd modd i ni ddod o hyd i ateb boddhaol i’r sefyllfa drwy drafod yn adeiladol gyda’n gilydd. Dylai hyn arwain at gyllido teg ar draws y DU, a mwy o dryloywder a sicrwydd yn y dyfodol mewn perthynas â materion cyllido,” meddai wedyn.

“Os na fyddwn yn gallu datrys y mater hwn cyn hir, byddwn yn dilyn trywydd mwy ffurfiol i ddatrys yr anghydfod drwy gamau ffurfiol Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (paragraff A3.9 y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth).”