Mae Dŵr Cymru yn atgoffa pobol i beidio nofio mewn cronfeydd wrth i dymheredd godi dros y penwythnos.

Mae nifer fawr o bobol – fel arfer dynion rhwng 17 a 35 – yn ceisio nofio mewn cronfeydd ar draws Cymru pan mae’n boeth gan roi eu bywydau eu hunain ag eraill mewn perygl.

O dan y dŵr mewn cronfeydd ar draws Cymru mae offer awtomatig ac mae dŵr oer a dyfnder yn gallu creu perygl anweledig i bobol sydd yn nofio yno.

Gyda’r tueddiad i gronfeydd fod mewn lleoliadau anghysbell hefyd, gyda signalau ffôn yn brin, felly mae’r siawns o gael help mewn damwain wedi’i leihau.

“Efallai bod cronfeydd dŵr yn ymddangos yn lle gwych i ymlacio, ond maen nhw’n llawn o beryglon cudd gyda thymereddau rhewllyd, peiriannau cudd a cherrynt cryf a all dynnu hyd yn oed y nofwyr cryfaf dan y dŵr,” meddai Prif Swyddog Gweithredu Dŵr Cymru, Peter Perry.

“Ni allaf bwysleisio digon bod pobl nid yn unig yn peryglu eu bywydau eu hunain, ond hefyd bywydau pobl a allai geisio achub os maen nhw’n cael trwbl mewn cronfa ddŵr.”