Mae dinas Caerdydd ymhlith y pum lleoliad gorau am barti plu yng ngwledydd Prydain.
Dyna’r hyn mae astudiaeth newydd yn ei ddweud wrth ystyried y dinasoedd hynny sydd â’r bariau a’r bwytai rhataf, y mwyaf o weithgareddau, a’r lleiaf o law.
Ar restr y deg dinas orau, mae Caerdydd yn y bumed safle, y tu ôl i Lundain, Nottingham, Newcastle a Lerpwl.
Ond yn ôl Mecca Bingo, a gynhaliodd yr astudiaeth, mae Caerdydd ymhlith y gorau o ran bwydydd a diodydd rhad, gyda phryd o fwyd ar gyfartaledd yn y ddinas yn costio £10, a photel o win yn £6.50.
Y deg uchaf
Y deg dinas orau am barti plu, yn ôl Mecca Bingo, yw:
- Llundain;
- Nottingham;
- Newcastle;
- Lerpwl;
- Caerdydd;
- Manceinion;
- Blackpool;
- Caeredin;
- Efrog;
“Gyda thymor y priodasau yn agosáu, roeddem yn awyddus i ddod o hyd i’r lleoliad delfrydol ar gyfer partïon plu,” meddai llefarydd ar ran Mecca Bingo.
“Boed ar gyfer gwyliau tawel yn y ddinas neu noson wyllt allan, mae pob lleoliad wedi ei harchwilio er mwyn dod o hyd i’r lleoliad gorau yn seiliedig ar beth mae partïon plu eisiau.”