Mae Côr Meibion o Gymru yn chwarae yn Glastonbury – un o ŵyliau roc a phop enowca’r byd – am y tro cyntaf erioed y penwythnos yma.

Fe fydd Côr y Penrhyn o Fethesda yn chwarae gyda grŵp newydd Damon Albarn, cyn-ganwr Blur a Gorillaz, ddydd Sul (Mehefin 30) ar y Park Stage a bydd y perfformiad i’w weld ar BBC4 am wyth o’r gloch.

Dechreuodd yr holl beth ar ôl i Damon Albarn gysylltu â Gruff Rhys o’r Super Furry Animals, a’i holi os oedd yn adnabod côr Cymraeg fyddai eisiau canu ar albwm newydd ei grŵp The Good, The Bad and The Queen.

Fel un o Fethesda, Côr y Penrhyn oedd dewis Gruff Rhys wrth gwrs, ac ers y sgwrs honno mae Côr y Penrhyn wedi canu yn Blackpool a Llundain gyda Damon Albarn.

“Jôc ydi hwn?”

“Wnaeth Damon Albarn ofyn i Gruff Rhys am gôr Cymraeg, a ddeudodd o, ‘o mae yna gôr yn dod o le dwi’n dod’,” meddai Arwel Davies, arweinydd Côr y Penrhyn wrth golwg360.

“Wedyn ges i alwad gan Damon a gofyn a oedd gen i ddiddordeb i weithio efo nhw… yn amlwg do’ ni ddim am ddweud ‘na’!”

“Heblaw fy mod i’n gwybod ei fod o’n ffonio… mi fasa fo wedi bod yn un o rheina lle faswn i ’di gofyn: ‘jôc ydi hwn?’”

Aeth Arwel Davies i lawr i weld Damon Albarn yn Llundain ym mis Ebrill cyn mynd ati i ysgrifennu’r darn côr iddo.

“Be sy’n dda am Damon Albarn ydy ei fod o mewn i bob math o fiwsig ac mae o rili rili yn teimlo’r miwsig, mae o’n thought-process hir, mae’r albwm wedi cymryd hir iawn i’w wneud,” meddai Arwel Davies.

“Mae o reit intense efo’i fiwsig, ac mae o’n licio barn pawb arall o fewn ei fiwsig o – wnaeth o adael fi ysgrifennu’r darnau côr i gyd.

“Mae ganddo fo gymaint o barch at y côr a’r hogiau i gyd hefyd, mae o’n buddsoddi yn bawb ac yn rhoi amser i bawb.

“Wnaeth o gynnig i fynd a ni i Amsterdam ychydig yn ôl ond doedd o ddim yn ymarferol i ni fynd â chôr cyfan mewn cyn lleied o amser!”

Mae Côr y Penrhyn  wedi gwneud tipyn gyda’r grŵp 9Bach a Celt yn y gorffennol ac fe fydden nhw’n perfformio gyda The Good, The Bad and The Queen eto fis nesaf yn Somerset House yn Llundain.