Fe fydd dyn 38 oed yn mynd gerbron ynadon y bore ma (dydd Gwener, Mehefin 28) ar gyhuddiad o lofruddio Gerald Corrigan.
Cafodd y cyn-ddarlithydd 74 oed ei saethu gan fwa croes yn ei gartref ym Môn ar Ebrill 19.
Mae disgwyl i Terence Michael Whall o ardal Bryngwran fynd gerbron ynadon Llandudno heddiw.
Mae tri pherson arall a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol, gydag amodau llym, ac mae ymholiadau’r heddlu’n parhau.
Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod yn parhau i apelio ar aelodau’r cyhoedd i’w helpu gyda’u hymchwiliad.
Cafodd Gerald Corrigan ei saethu gan fwa croes tra oedd yn addasu lloeren y tu allan i’w gartref mewn ardal anghysbell ger Caergybi ar Ebrill 19.
Cafodd y pensiynwr anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad a bu farw’n ddiweddarach ar Fai 11.