Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn dweud bod angen codi ymwybyddiaeth o’r angen i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021.

Y ffordd o wneud hyn, meddai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol heddiw (Dydd Gwener, Mehefin 27), yw drwy addysg.

Maen nhw’n credu bod addysg yn allweddol i weithredu Bil Senedd ac Etholiadau Cymru fyddai’n gwneud hi’n gyfreithlon i bobol 16 oed bleidleisio ac yn newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl y Pwyllgor dydi Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru heb fod yn ddigon clir ynglŷn â chynllun o’r fath ac mae wedi amlygu, os yw pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio yn etholiad y Cynulliad yn 2021, fod amser yn dynn.

Addysg am wleidyddiaeth

Wrth edrych ar y cyfnod cyn etholiad 2021 mae’r Pwyllgor yn teimlo bod cyfle mawr yma i wella addysg am wleidyddiaeth yn gyffredinol, i bob grŵp oedran.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol bod angen codi ymwybyddiaeth er mwyn gweithredu’r Bil.

Er hynny, meddai, “rydym yn pryderu am ddiffyg ymddangosiadol cynllun gweithredu cydlynol. Er y bu cydnabyddiaeth bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd, nid ydym yn glir o ran pwy sy’n arwain ar y gwaith hwn yn barod ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2021.”

Gofynnodd y Pwyllgor am farn pobl ifanc, ac roedd yr aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru ymhlith y rhai a gyfrannodd eu barn.

“Byddai gostwng yr oedran pleidleisio yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud am eu dyfodol,” dywedwyd wrth y Pwyllgor mewn trafodaeth ar-lein.

“Er ein bod yn credu’n gryf y byddai gwneud hynny’n fuddiol, byddai’n rhaid i ysgolion addysgu am wleidyddiaeth heb ragfarn fel y gall pobol ifanc wneud dewis ac ystyried yr holl ganlyniadau.”