Mae prif weinidogion Cymru a’r Alban wedi galw ar olynydd Theresa May i “ddiystyru” Brexit heb gytundeb.

Wrth i Theresa May gamu o’r neilltu, mae ras yn mynd rhagddi i benodi olynydd i gymryd ei lle fel arweinydd y Ceidwadwyr a Phrif Weinidog gwledydd Prydain.

Ac mae un o’r rheiny, Boris Johnson, eisoes wedi dweud y byddai’n fodlon bwrw ati â Brexit heb ddêl os na ddaw cytundeb erbyn Hydref 31.

Mae Mark Drakeford a Nicola Sturgeon yn credu y gallai Brexit heb gytundeb “achosi niwed difrifol i enw da’r Deyrnas Gyfunol” a bellach maen nhw wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd.

Datganiad ar y cyd

“Rhaid i’r Prif Weinidog nesaf gamu nôl o ymyl dibyn Brexit heb gytundeb, a bod yn onest gyda’r cyhoedd,” medden nhw.

“Os byddant yn parhau ar y trywydd presennol, mae’n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd y Deyrnas Gyfunol yn cael ei rhwygo o’r Undeb Ewropeaidd ymhen pedwar mis…

“Felly, rhaid i’r Prif Weinidog newydd newid ei drywydd a diystyru ymadael heb gytundeb ar unrhyw gyfrif.”

Daw’r rhybudd cyn cyfarfod rhwng y ddau arweinydd ym Manceinion – cyfarfod olaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig cyn penodiad Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig.