Dylid cael gwared ar sgriniau cyfrifiadur yn Siambr y Senedd a threulio mwy o amser yn trafod, yn ôl Aelod Cynulliad a fu yn un o weinidogion Llywodraeth Cymru am blwc.

“Ers agor y Senedd yn 2006 rydyn ni wedi gweld camau enfawr ymlaen o ran y defnydd o dechnoleg a’n ffordd o gadw mewn cysylltiad â’n swyddfeydd a gweithio’n gynhyrchiol wrth gymryd rhan mewn dadleuon,” meddai Alun Davies, AC Blaenau Gwent.

“Mae’n bryd i ni adolygu strwythur y siambr hon a sicrhau ein bod yn cael gwared ar ein sgriniau cyfrifiadur a threulio mwy o amser yn trafod gyda’n gilydd a llai o amser ar ein sgriniau.”

Y tro diwethaf i Aelodau Cynulliad gael eu holi am eu safbwynt ar adnoddau technolegol yn y siambr oedd yn 2016, yn ôl y Llywydd Elin Jones.

Bryd hynny, meddai Elin Jones, “roedd yr Aelodau’n awyddus i barhau i ddefnyddio’r offer technolegol a osodwyd yma.”