Mae gair newydd Cymraeg am doilet dynion wedi ei greu gan dîm fu’n cynnal digwyddiad i godi arian at achosion da ym Mangor.

Ar fap o ddigwyddiadau ‘Draig Beats’ yng Ngerddi Botaneg Treborth, a gynhaliwyd ar Fehefin 8, roedd yr ‘Urinals’ yn Saesneg wedi ei drosi i ‘Pidlfan i ddynion’ yn y Gymraeg.

Yn ôl Geiriadur yr Academi, y geiriau Cymraeg am ‘urinals’ yw ‘troethlestri’, ‘lle gwneud dŵr’ neu ‘lle pi-pi’.

Mae un o drefnwyr y digwyddiad yng ngerddi Prifysgol Bangor wedi egluro tarddiad ‘Pidlfan i ddynion’ wrth golwg360.

“Rhai o’n gwirfoddolwyr oedd wedi gwneud y poster, mae rhai yn siaradwyr Cymraeg a rhai ddim,” meddai Natalie Chivers.

“Rydyn ni’n anfon popeth at y tîm gwych o gyfieithwyr ym Mhrifysgol Bangor yn aml ond wnaethon ni ddim ei anfon y tro yma.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n ddoniol iawn, y cyfieithiad… rwy’n tybio ei fod yn anghwrtais os oedd pobol wedi eu pechu, ond ni fydden ni fyth bythoedd yn trio pechu neb!

“Efallai y dylen ni fod wedi’i hanfon hi trwy’r uned gyfieithu i ddweud y gwir. Ond dw i’n meddwl mai rhai o’r siaradwyr Cymraeg wnaeth [greu’r enw], ag efallai wedi ei wneud yn fwriadol am yr hwyl!”