Mae rhaglen sgrinio mewn cymuned yn Sir Gaerfyrddin wedi dod o hyd i 76 achos o dwbercwlosis (TB) cudd, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond mae’r corff yn ychwanegu nad ydyn nhw wedi dod o hyd i’r un achos o TB gweithredol.

Cafodd fwy na 1,400 o bobol eu sgrinio dros gyfnod o dridiau yn Llwynhendy ger Llanelli yn dilyn 29 achos o’r clefyd yn yr ardal a marwolaeth un ddynes.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru, a arweiniodd y rhaglen sgrinio yn gynharach yn y mis, nad oes angen triniaeth frys ar y bobol y canfuwyd bod TB cudd ganddyn nhw, gan nad yw’r clefyd yn y ffurf honno’n heintus.

“Mae TB cudd yn digwydd pan fo unigolion wedi’u heintio gan y germ sy’n achosi TB, ond nad oes ganddyn nhw glefyd TB gweithredol,” meddai Dr Brendan Mason o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Nid ydyn nhw’n heintus ac ni allan nhw ledaenu haint TB i eraill, ac nid ydyn nhw’n teimlo’n anhwylus nac yn dioddef unrhyw symptomau.

“Os daw bacteria TB cudd yn weithredol yn y corff ac yn llosgi, bydd y person yn mynd o gael haint TB cudd i gael clefyd TB gweithredol.

“Am y rheswm hwn, gall pobol sydd â haint TB cudd gael eu trin i’w hatal rhag datblygu clefyd TB.”

Mae gan Gymru y gyfradd isaf o TB fesul 100,000 o’r boblogaeth o gymharu â rhanbarthau eraill yng ngwledydd Prydain.