Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, wedi dweud ei fod yn bwriadu cynyddu’r nifer o lefydd sydd ar gael i hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru o 18%.

Daw hyn yn dilyn cynnydd sylweddol yn y niferoedd sydd eisiau hyfforddiant, gyda 155 o lefydd wedi’u llenwi’n barod eleni.

Y targed cychwynnol oedd 136 felly mae Vaughan Gething nawr yn galw ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru i adolygu nifer y llefydd yng Nghymru er mwyn cynyddu’r capasiti.

Y gobaith yw, o fis Hydref, y bydd y gyfradd lenwi mewn llefydd hyfforddi yn cynyddu o 136 i 160, gyda’r bwriad o gynyddu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.

  “Cynnydd rhagorol”

  “Rydyn ni wedi gweld cynnydd rhagorol ers lansio ein hymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw yn 2016 i ddenu’r rheini sydd am hyfforddi i fod yn feddygon teulu i Gymru,” meddai Vaughan Gething.

Mae’r ymgyrch yn cynnig hyd ar £20,000 i feddygon teulu o dan hyfforddiant sy’n derbyn swyddi mewn ardaloedd sy’n anodd eu llenwi.

“Rydyn ni wedi rhagori ar ein targed ar gyfer dwy o’r tair blynedd diwethaf felly mae nawr yn amser da i ystyried cynyddu’r targed hwnnw.”

Yn ôl yr Athro Push Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Addysg a Gwella Iechyd Cymru fe fydd hyn yn cael effaith bositif ar wasanaethau gofal ac iechyd lleol.

“Mae gan Gymru lawer i’w gynnig ac edrychwn ymlaen at gael croesawu mwy o unigolion sydd am hyfforddi fel meddygon teulu yng Nghymru,” meddai.