Y newyddiadurwr a’r cyflwynydd, Dylan Jones fydd Llywydd yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.

Yn wreiddiol o bentref Capel Garmon ger Llanrwst, cafodd Dylan Jones ei addysg yn ysgol gynradd y pentref, Ysgol Dyffryn Conwy a Phrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd mewn Gwleidyddiaeth.

Bu’n athro yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, ac yn bennaeth adran yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, cyn ymuno ag Adran Newyddion BBC Cymru ar ddechrau’r 1990au.

Ar ôl treulio cyfnod yn ohebydd y BBC yn y gogledd-ddwyrain, dechreuodd gyflwyno’r rhaglen ddyddiol Taro’r Post yn 2002 cyn symud i gyflwyno’r Post Cyntaf yn 2013.

Mae hefyd wedi cyflwyno’r rhaglen bêl-droed Ar y Marc ers 1992.

Mae Dylan Jones a’i wraig, Elen, ar hyn o bryd yn byw yn Ninbych, ac mae ganddo chwech o blant.

Bydd yn annerch cynulleidfa’r Pafiliwn o’r llwyfan yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyrion Llanrwst rhwng Awst 2 a 10.