Mae 90 o swyddi yn y fantol mewn ffatri gaws yng Ngwynedd yn dilyn amheuon ynghylch dyfodol cwmni GRH Foods.

Yn ôl adroddiadau, cafodd gweithwyr yn y ffatri yn ardal Minffordd, rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog, wybod y bore yma (dydd Llun, Mehefin 24) eu bod yn wynebu colli eu swyddi wrth i’r cwmni gael ei roi yn nwylo’r derbynwyr.

Mae golwg360 yn deall bod cwmni KPMG wedi ei benodi’n weinyddwyr ar y cwmni.

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, a’r cynghorydd lleol, Gareth Thomas, eisoes wedi cyfarfod â GRH Foods er mwyn trafod y mater.

“Trist iawn yw deall fod y cwmni lleol yma bellach yn nwylo’r derbynwyr, gan beryglu 90 o swyddi lleol,” meddai.

“Rwy’n arbennig o bryderus fod y cyfleusterau yma sydd â’r dechnoleg gynhyrchu ddiweddaraf, bellach dan fygythiad, a hynny ar ôl derbyn oddeutu £1.5m o arian cyhoeddus gan y Llywodraeth.

“Rhaid i’n prif ffocws fod ar y gweithwyr lleol yr effeithir arnynt gan y newyddion ofnadwy yma, a fydd yn ddealladwy, yn poeni am eu dyfodol.

“Galwaf ar Lywodraeth Cymru i gamu mewn a chynnal cyfarfod brys a’r gweinyddwyr KPMG i sicrhau fod y buddsoddiad pwysig yma mewn cynhyrchu bwyd yng ngogledd orllewin Cymru yn cael ei ddiogelu i’r dyfodol.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a KPMG am ymateb.