Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r ddynes fu farw yn ardal Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Marie Lena Gilmore, 48, mewn eiddo yn Rhydybont, Penparcau, nos Iau (Mehefin 20).

Cafodd dyn, 40, ei arestio ar amheuaeth o ymddwyn yn groes i orchymyn ataliol, cyn cael ei garcharu am gyfnod o 16 wythnos.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, maen nhw’n trin marwolaeth Marie Lena Gilmore fel un anesboniadwy, ac maen nhw’n dal i ymchwilio.

Mae ei theulu wedi talu teyrnged iddi, gan ddweud y byddai’n cael ei cholli “gan bawb”.

“Hoffem ddiolch i deulu a ffrindiau am eu cefnogaeth sy’n golygu cymaint i’r teulu cyfan,” meddai’r datganiad.

“Fodd bynnag, hoffem nawr gael amser i alaru ac rydym yn gofyn am breifatrwydd er mwyn gwneud hynny.”