Mae Plaid Cymru mewn trafodaethau a phleidiau eraill heddiw (Dydd Llun, Mehefin 24) ynglŷn ag isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed.
Mae’r blaid yn ystyried os ydyn nhw am enwebu ymgeisydd eu hunain i sefyll yn erbyn Chris Davies neu ochri gyda phlaid arall, sydd o blaid aros yn Ewrop.
Daw hyn ar ôl i aelodau’r Blaid Geidwadol yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ddewis Chris Davies yn ymgeisydd yn yr isetholiad yno.
Bydd isetholiad yn cael ei gynnal wedi i dros 10% o drigolion yr etholaeth arwyddo deiseb yn galw ar Chris Davies i gamu o’r neilltu fel Aelod Seneddol.
Ym mis Mawrth, cafwyd Chris Davies yn euog o wneud ceisiadau ffug am dreuliau. Cafodd y ddeiseb adalw ei harwyddo gan 10,005 o bobol.
“Penderfyniad maes o law”
“Mae’r trafodaethau yn mynd yn eu blaen, ac nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto,” meddai llefarydd Plaid Cymru wrth golwg360.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bore ’ma: “Ry’n ni mewn trafodaethau gyda phleidiau sydd o blaid aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.”
Yn ôl Adam Price fe fydden nhw’n gwneud “penderfyniad maes o law,” yn sgil y trafodaethau.
Nid oes dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer yr isetholiad hyd yn hyn.