Bu farw rhedwr yn ystod Hanner Marathon Abertawe ddoe (dydd Sul, Mehefin 23) ar ôl syrthio i’r llawr yn agos at y llinell derfyn.

Daeth y cadarnhad gan drefnwyr y ras, sy’n dweud eu bod nhw’n cydweithio â’r gwasanaethau brys wrth iddyn nhw ymchwilio i’r digwyddiad.

“Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.

Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gawson nhw eu galw toc cyn 1.30yp wedi i ddyn syrthio i’r llawr yn Stryd Adelaide.

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty lle cafodd ei gadarnhau’n farw yn ddiweddarach.

Dyw’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, meddai’r heddlu ymhellach.

Roedd Hanner Marathon Abertawe yn cychwyn ger Neuadd Brangwyn yn y ddinas ac ar hyd Bae Abertawe.

Bu’n rhaid i redwyr goddef y tywydd clos wrth redeg y ras 13.1 milltir eleni.