Fe fu cynnydd o 7% yn nifer y bobol sydd o blaid annibyniaeth i Gymru rhwng 2017 a 2019, yn ôl arolwg newydd gan YouGov.

Cafodd yr holiadur yn 2017 ei gomisiynu gan Yes Cymru, mudiad o blaid annibyniaeth i Gymru.

Y tro hwn, cafodd 1,133 o bobol eu holi, ac roedd gofyn iddyn nhw raddio pa mor gryf ydyn nhw o blaid annibyniaeth i Gymru – gyda 0 yn golygu eu bod yn ei wrthwynebu’n llwyr, a 10 yn golygu eu bod yn llwyr gefnogol.

Mae 0-4 yn cael ei gyfri fel gwrthwynebu, 5 fel dim yn gefnogol nac yn wrthwynebus, a 6-10 yn gefnogol.

Does dim cofnod o’r rhai a ddywedodd nad ydyn nhw’n gwybod y naill ffordd na’r llall.

Cafodd yr holiadur ei gwblhau ar-lein rhwng Mai 10 a 15 eleni, a dim ond pobol dros 18 oed gafodd eu holi.

Canlyniadau

Nododd 14% eu bod yn gryf iawn o blaid annibyniaeth (10 ar y raddfa), o’i gymharu â 10% ddwy flynedd yn ôl.

Nododd 4% eu bod yn rhif 9 ar y raddfa, o’i gymharu â 2% yn 2017.

5% oedd wedi nodi rhif wyth, tra mai 6% oedd wedi nodi’r rhif hwnnw ddwy flynedd yn ôl.

6% oedd wedi nodi rhif saith y ddau dro, tra bod 7% wedi nodi rhif chwech y tro hwn o’i gymharu â 5% yn 2017.

Ar y cyfan, felly, mae 36% yn gosod eu hunain rhwng 6-10, o’i gymharu â 29% ddwy flynedd yn ôl.

Dim ond 47% sy’n dweud eu bod nhw’n gwrthwynebu annibyniaeth (0-5 ar y raddfa), o’i gymharu â 53% yn 2017.