Mae ymgyrchwyr yn lansio deiseb heddiw er mwyn sicrhau bod ysgol newydd yn y brifddinas yn un Gymraeg, ac nid dwyieithog.

Bydd y ddeiseb, sy’n cael ei lansio yn Tafwyl, yn dwyn pwysau ar Gyngor Caerdydd tros yr ysgol gyntaf sy’n rhan o ddatblygiad tai yng ngogledd-orllewin y ddinas.

Fis Ebrill eleni, daeth y cyngor i’r penderfyniad mai ysgol ddwyieithog fyddai’r ysgol newydd ar ddatblygiad tai Plasdŵr, ac nid yn un ddwyieithog yn unol ag addewid blaenorol.

Fe fydd hyd at 7,000 o dai yn cael eu codi ar y datblygiad dros y saith mlynedd nesaf, mewn ardal lle mae rhai o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg Caerdydd.

Mae bron i chwarter poblogaeth yr ardal, gan gynnwys Creigiau, Sain Ffagan a Phentyrch, yn siarad Cymraeg.

‘Cadw at ei air’

“Bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr,” meddai’r cynghorydd Huw Thomas mewn neges ar Twitter y llynedd.

Ond penderfynodd cabinet y cyngor yr wythnos ddiwethaf y byddan nhw’n sefydlu ymgynghoriad ar gyfer ysgol ddwyieithog newydd.

“Rydyn ni’n cychwyn y ddeiseb er mwyn sicrhau bod Arweinydd y Cyngor yn cadw at ei air i agor ysgol cyfrwng Cymraeg, nid ysgol ddwyieithog,” meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith.

“Roedden ni ar ddeall y byddai’r ysgol gyntaf yn un cyfrwng Cymraeg. Beth sydd wedi digwydd?

“Ydy’r Arweinydd wedi gwneud tro pedol er mwyn plesio’r rhai gwrth-Gymraeg o fewn y cabinet?

“Wrth ddathlu 70 mlynedd o addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas, dylai fod yn cadw at addewid er lles bywydau’r genhedlaeth nesaf.

“Ysgol benodedig Gymraeg sydd ei hangen os yw’r Cyngor o ddifrif am sicrhau ein bod ni’n cyrraedd miliwn o siaradwyr.

“Mae’n rhaid i Gaerdydd sicrhau cynnydd dramatig a chyflym yn nifer y disgyblion sy’n mynd i ysgol Gymraeg er mwyn sicrhau y caiff y targed ei gyrraedd.”

‘Cyfle euraid’

“Mae agor ysgol newydd sbon ar gyfer y datblygiad tai yma yn cynnig cyfle euraidd i gynyddu’n gyflym y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg,” meddai wedyn.

“Drwy beidio defnyddio’r cyfalaf sy’n dod gyda’r datblygiad tai anferth yma i agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig, mae’r cyngor yn rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau’r rhan helaeth o bobl yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith.

“Ar hyn o bryd, yn ôl ystadegau’r cyngor, mae mwy o blant oedran derbyn sydd eisiau lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg nag sydd o le iddyn nhw, ond mae llefydd dros ben mewn ysgolion Saesneg, beth yw’r synnwyr agor ffrwd Saesneg felly?”erdydd