Mae “angen gofyn cwestiynau” ar ôl i’r cwmni adeiladu Jistcourt o Bort Talbot fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Russell George, llefarydd busnes y blaid, yn dweud bod y mater yn codi cwestiynau am “dryloywder ac atebolrwydd” Llywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiadau am Jistcourt yn dod yn fuan ar ôl i gwmni Dawnus wynebu’r un tynged.

“Heddiw, mae fy meddyliau gyda gweithwyr Jistcourt, y rhai diweddaraf i dderbyn y gwaethaf o lu o newyddion drwg i fusnesau Cymru,” meddai Russell George.

“Rhaid i ni edrych nesaf i ddarganfod sut mae cwmni adeiladu arall wedi cwympo i’r un tynged â Dawnus.

“Rhaid gofyn cwestiynau am dryloywder ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru wrth adael i awdurdodau lleol fynd ar ôl y cytundebau hyn.

“Byddaf yn codi’r mater gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru.”

Cefndir

Mae adroddiadau bod 50 o swyddi yn y fantol yn dilyn y newyddion am Jistcourt.

Mae gan y cwmni swyddfeydd ym Mryste hefyd.

Fe ddaw’r newyddion wrth i’r gweinyddwyr ddweud bod y cwmni wedi colli arian yn sgil sawl prosiect oedd ar y gweill.