Mae Cyngor Ceredigion wedi gosod mannau gwefru cerbydau trydan yn eu prif swyddfeydd fel rhan o’r ymdrech i ddiogelu’r amgylchedd a lleihau allyriadau carbon.

Mae’r ddau fan gwefru ar gael at ddefnydd staff y cyngor a’r cyhoedd ym meysydd parcio’r swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberaeron.

Yn ôl y cyngor, mae ceir trydan yn rhatach i’w rhedeg na cherbydau cerbydau neu ddisel, gyda thaith 100 milltir mewn car trydan gostio tua £4, o gymharu â £12-£18 mewn cerbyd arferol.

Mae busnes yn ardal Tre’r Ddôl yng ngogledd y sir, sef caffi cymunedol Cletwr, eisoes yn cynnig man gwefru ceir trydan.

Diogelu’r amgylchedd

“Mae hyn yn gynnydd gwych o ran sicrhau bod gan drigolion ac ymwelwyr Ceredigion fwy o leoliadau i wefru eu ceir trydan ledled y sir,” meddai Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn.

“Rydym yn gyngor amgylcheddol gyfrifol ac rydym yn gwneud ein gorau glas i leihau allyriadau carbon, diogelu ein hamgylchedd ac annog aelodau o’r cyhoedd i fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd drwy ddewis i yrru ceir sy’n llygru llai.

“Bydd gwerthuso pa mor aml y defnyddir y mannau gwefru newydd ar gyfer cerbydau trydan yn ein helpu i fesur y glaw, a bydd hyn yn helpu i sicrhau cyllid ar gyfer mwy o fannau gwefru o amgylch y sir yn y dyfodol.”