Mae dros 10% o drigolion etholaeth yr Aelod Seneddol, Chris Davies, wedi arwyddo deiseb yn galw arno i gamu o’r neilltu.
Cafodd y ddeiseb ei harwyddo gan 10,005 o bobol, ac mi fydd y broses yn dechrau yn awr i gynnal is-etholiad yn yr etholaeth.
‘Deiseb galw yn ôl’ (recall petition) yw’r ddeiseb a gafodd ei llofnodi, a dan reolau San Steffan mae modd i etholaeth lunio copi os ydi’r cynrychiolydd wedi camymddwyn.
Ym mis Mawrth cafwyd Chris Davies yn euog o wneud ceisiadau ffug am arian. Roedd angen i 5,503 o bobol lofnodi’r ddeiseb er mwyn tanio is-etholiad.
Hwn fydd yr is-etholiad cyntaf o’i fath yng Nghymru, a’r ail o’i fath yn y Deyrnas Unedig – cafodd ‘is-etholiad adalw’ ei gynnal yn Peterborough ddechrau’r mis.
Hanes y sedd
Fe enillodd Chris Davies y sedd yn 2017 gyda mwyafrif o 8,038.
Ers 1979 mae’r etholaeth wedi ei chynrychioli gan y Ceidwadwyr deirgwaith a gan y Democratiaid Rhyddfrydol/Rhyddfrydwyr deirgwaith.