Mae un o gynghorwyr Aberteifi wedi canmol ‘ap’ sy’n manylu ar ddigwyddiadau’r dref, ac yn dweud ei fod yn “declyn marchnata arbennig”.

Ac mae’r Cynghorydd Clive Davies wedi ei wadd i drefi eraill yn y gorllewin i fanylu ar fendithion y dechnoleg sy’n cael ei ddarparu am ddim.

Cafodd ‘Ap Tref Aberteifi’ ei lansio ym mis Chwefror y llynedd, ac ers dros flwyddyn bellach mae wedi bod yn darparu manylion am y dref i ymwelwyr a phobol leol.

Un o’r rheiny sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect ers y cychwyn yw Clive Davies, dirprwy faer cyngor tref Aberteifi, ac mae’n canu clodydd yr ‘ap’.

Mae’n egluro bod manylion am siopau, bwytai a digwyddiadau lleol ar yr ap; a bellach mae’n dra phoblogaidd ymhlith ymwelwyr o’r Unol Daleithiau.

“Mae cruises yn dod o America,” meddai wrth golwg360. “Maen nhw’n dod o Wdig, wrth Abergwaun. Ar y daith bws [i Aberteifi] maen nhw’n cael eu hannog i lawrlwytho’r ap …

“A thrwy’r feddalwedd rydym ni’n gwybod faint o Americanwyr sydd wedi ei lawrlwytho, a pha ddiddordebau sydd gyda nhw.”

Mae’r ap wedi ennyn cryn ddiddordeb, a bellach mae Clive Davies wedi cael ei wahodd i Lanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Aberystwyth a Charno i siarad am fendithion y dechnoleg.

Yr ap sy’n fap

Cafodd ap Aberteifi ei ariannu gan Bartneriaeth y Dref – grŵp a gafodd ei sefydlu gan Clive Davies – grant Ewropeaidd, a’r cyngor tref.

Mae’n dal i gael ei ddiweddaru’n rheolaidd , mae 1,200 wedi ei lawrlwytho hyd yma, ac mae ar gael am ddim ar gyfer ffonau Apple ac Android.

Yn ôl Clive Davies mae’r ap yn “un lle i gael gwybod am bopeth: hanes, treftadaeth y dref, beth sydd ymlaen yn y dref, a ble mae pethau yn y dre. Mae map a phob dim ynddo fe.

“Mae’n canoli’r cwbl mewn un lle,” ychwanega. “Ac mae’n rhoi manylion am bethau fyddai ddim ar Google. Mae edrychiad da iddo fe hefyd.

“Mae wedi cael ei gynllunio’n reit neis. Ac mae map ardderchog ynddo fe. Does dim angen mynd ar Google!”

Casglu ystadegau

Trwy feddalwedd yr ap a manylion o “sustem ddiwifr” y dref, mae gwybodaeth yn cael ei gasglu am ymwelwyr y dref a chwsmeriaid ei siopau.

Mae’r ystadegau yma yn cael eu casglu mewn adroddiad ac mae’r ddogfen honno yn cael ei rhannu yn fisol â  90 o siopau’r dref.

“Gyda’r ddau beth yna, rydym ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o bobol sy’n dod i Aberteifi yn dod lan yr M4, yn dod o Loegr,” meddai Clive Davies.

“Does dim gwybodaeth bersonol yn cael ei gadw. Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw maint traed [defnyddwyr yr ap] neu eu taldra! Ystadegau anhysbys sydd gennym. Dyna i gyd.”

Y wybodaeth

Mae gwybodaeth yn cael ei gasglu ynghylch:

  • O le ddaw ymwelwyr
  • Diddordebau ymwelwyr
  • Pa elfennau o’r ap mae pobol yn edrych arnyn nhw fwyaf
  • Pa fath o siopau sy’n boblogaidd
  • Pa ddiwrnodau sydd fwyaf prysur
  • Faint o bobol sydd heb fod yn Aberteifi o’r blaen
  • Faint sy’n dod yn ôl yn wythnosol
  • Pa rannau o’r dref sydd yn brysur