Mae Cyngor Tref Nefyn wedi pleidleisio tros gefnogi annibyniaeth i Gymru.

Gan ddilyn esiampl cynghorau trefi Machynlleth, Porthmadog, a Blaenau Ffestiniog, dyma’r pedwerydd cyngor tref i wneud datganiad o’r fath.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan Rhys Tudur, Cadeirydd Cyngor Nefyn, mewn cyfarfod neithiwr (nos Iau, Mehefin 20).

 Roedd 10 o’r 11 cynghorydd oedd yn bresennol o blaid cefnogi YesCymru a’r ymgyrch tros annibyniaeth.

 “Pwerau agosaf i’r bobol”

 “I ddechrau, roedden ni wedi cael gwybod bod cynghorau eraill wedi gwneud penderfyniad ac roedd Sion Jobbins (YesCymru) wedi ein he-bostio ni yn holi am ein safbwynt,” meddai Rhys Tudur, Cadeirydd Cyngor Nefyn, wrth golwg360.

“Wnes i wedyn ei roi o gerbron y cyngor ac ar y diwedd roedd un wedi atal ei bleidlais, a phawb arall wedi pleidleisio o blaid.

“Yn bersonol dw i’n grediniol iawn mai’r pwerau agosaf i bobol ydi’r gorau i lywodraethu, dyna dw i’n credu’n gryf ynddo,” meddai Rhys Tudur.

“Cyffro trwy Gymru”

Mae Rhys Tudur yn gobeithio y bydd penderfyniad Cyngor Tref Nefyn yn “creu rhyw gyffro trwy Gymru”.

“Fydd pobol yn fodlon trafod dadl yr ymgyrch ac mi fydd hi’n cael ei hystyried trwy’r wlad. Dw i’n meddwl ei fod o’n beth da ein bod ni’n ystyried y peth.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n beth da ein bod ni’n ystyried y peth.

“Mae’r Alban eisoes wedi gwneud, mae’r ddadl Brexit wedi dod a mwy o bobol mewn i wleidyddiaeth a dw i’n meddwl y dylen ni fel Cymry ystyried y ddadl dros annibyniaeth.”