Mae cyn-gadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Ceredigion yn dweud nad yw’r ymgeiswyr “di-fflach” yn ras yr arweinyddiaeth wedi ei demtio i ddychwelyd i’r blaid.

“Ar ôl gweld y dadleuon, ac ar ôl gweld na wnaeth Boris Johnson gymryd rhan yn y ddadl ar Channel 4, dw i’n falch nad ydw i wedi aros,” meddai Luke Evetts o Lanarth.

“Sut alla i ddewis allan o’r criw yma pwy ddylai arwain y wlad? Maen nhw mor ddi-fflach…

“Does dim llawer y gall y blaid ei wneud er mwyn ceisio fy ennill yn ôl,” meddai wedyn. “Does dim ots pwy fydd yn cipio’r arweinyddiaeth. Dydw i ddim yn meddwl bod yr un ohonyn nhw yn mynd i ddatrys problemau mewnol y blaid.”

Angen “addasu a moderneiddio”

Dyw Luke Evetts, a ymgeisiodd am sedd Ceredigion ar ran y Ceidwadwyr yn etholiadau San Steffan a Bae Caerdydd yn 2010 a 2011, ddim wedi bod yn aelod o’r Blaid Geidwadol ers mis Ionawr.

Ymhlith ei resymau tros adael oedd arweiniad y blaid ar Brexit, y diffyg llais i aelodau ar lawr gwlad, ac anallu’r blaid yn ganolog i gydnabod datganoli yng Nghymru.

Dywed fod y Blaid Geidwadol yn bell o’r pwynt lle mae’n barod i “addasu a moderneiddio”, er bod yna angen dybryd am hynny ar hyn o bryd.

“Mae’n teimlo fel petai’r blaid wedi symud o’r tir canolog, ac felly mae gennych chi wahanol garfannau yn cael eu ffurfio,” meddai Luke Evetts.

“Mae gwleidyddiaeth yn gyffredinol yn rhanedig, yn union fel y mae o fewn y Blaid Geidwadol.

“Dw i’n meddwl y bydd yn rhaid i’r arweinydd newydd feddwl am rywbeth mor fuan â phosib, neu dyw’r Blaid Geidwadol fel y mae heddiw ddim yn mynd i oroesi…”

“Diffyg tryloywder”

Yn ogystal â rhaniadau yn sgil Brexit, mae Luke Evetts yn credu mai’r brif broblem sy’n wynebu’r Blaid Geidwadol ar hyn o bryd yw “diffyg tryloywder”.

Dywed iddo deimlo anfodlonrwydd fel aelod adeg yr Etholiad Cyffredinol yn 2017, pan gafodd dynes o Lundain ei dewis yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd Ceredigion.

Roedd hynny, meddai, yn amlygu’r math o berthynas sy’n bodoli rhwng y blaid yn ganolog a’r blaid yng Nghymru.

“Fe wnes i ymuno â’r blaid yn 2007, ac fe wnes i ymgeisio ar ran y blaid mewn etholiadau lleol yn 2008 a 2012. Fe wnes i fentro i fyd gwleidyddiaeth oherwydd fy mod i’n poeni am fy nghymuned leol.

“Ond fe ges i lond bol ar bethau eraill, fel yr haenau o fiwrocratiaeth, y diffyg tryloywder, a’r ffordd y mae ymgeiswyr yn cael eu dewis yn Llundain. Mae’r blaid hefyd, yn enwedig yn Llundain, yn ei chael hi’n anodd i ddeall datganoli.

“… dw i’n Gymro, ac yn falch o fod yn Gymro, ond eto mae’n anodd hyrwyddo plaid yng Nghymru sy’n lledaenu llenyddiaeth sy’n cyfeirio at benderfyniadau yn San Steffan wrth sôn am faterion datganoledig.”