Mae adroddiad newydd heddiw (Dydd Iau, Mehefin 20) yn dangos bod 37,000 o swyddi wedi’u colli o fewn awdurdodau lleol mewn degawd.

Daw hyn yn sgîl gwerth £1bn o doriadau ers 2009 meddai tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethant Gymru yn eu hadroddiad ‘Y Sector Gyhoeddus yng Nghymru’.

Rhwng Rhagfyr 2009 a Medi 2018 cafodd 37,000 o swyddi eu colli – sy’n gyfystyr â 19.9% o’r gweithlu.

Mae hyn er i arweinwyr a chynghorwyr ar draws Cymru ddadlau yn gyson nad oes gan wasanaethau lleol y gallu i ddioddef mwy o doriadau i’w cyllideb.

“Hanfodol i lesiant cymunedau”

Ymhlith y gweithwyr sydd wedi cael eu taro mae gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr ffyrdd, casglwyr gwastraff, llyfrgellwyr a llawer mwy.

“Gweithlu’r cyngor sydd wedi gorfod ysgwyddo baich cyni yn fwy nag unrhyw sector arall,” meddai’r Cynghorydd David Poole, Caerffili, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros y Gweithlu

“Er gwaethaf y pwysedd ychwanegol sydd wedi cael ei roi arnyn nhw, maen nhw wedi parhau i ddarparu’r gwasanaethau hynny sy’n hanfodol i lesiant ein cymunedau.

“Fodd bynnag, mae gallu’r gweithlu i ddelio â thoriadau o’r fath heb effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau hanfodol, megis gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, bellach wedi dod i ben.”

“Rhaid buddsoddi £3.6bn”

Yn ôl y Cynghorydd Anthony Hunt, Torfaen, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Adnoddau a Chyllid – y bil cyflog am ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol yw £3.6bn.

“Bydd yn rhaid gwario dros £100m rhwng 2020-21 dim ond er mwyn i gyflogau’r staff sy’n darparu gwasanaethau lleol i gadw i fyny â chwyddiant,” meddai.

“Mae’n gwbl hanfodol bod llywodraethau ar bob lefel yn cydnabod pa mor hanfodol yw hi fod gwasanaethau lleol yn derbyn setliad teg sy’n cydnabod y pwysau hwn cyn cyhoeddiadau cyllidebol yr Hydref.”