Mae yna “alw cyhoeddus cyffredinol am fwy o sylw i hanes Cymru mewn ysgolion”, yn ôl ymgyrchydd a chyn-athro hanes.

Mae Eryl Owain yn Gydlynydd ar ‘Ymgyrch Hanes Cymru’, ac ers blynyddoedd bellach mae’r grŵp wedi bod yn gweithio i sicrhau bod plant Cymru yn dysgu am hanes eu gwlad.

Ddydd Mercher (Mehefin 19) cafodd dadl i’r mater ei gynnal yn y Senedd, ac wythnos nesaf mi fydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn casglu tystiolaeth am y pwnc.

Un o’r rheiny a fydd yn cyflwyno tystiolaeth yw Eryl Owain, ac mae’n synhwyro bod cefnogaeth at yr ymgyrch yn tyfu.

“Mae yna ddyhead gan bobol Cymru i wybod mwy am eu gorffennol,” meddai wrth golwg360. “Ac efallai bod hynny’n gryfach nac mae wedi bod erioed.

“Mae’n un o ganlyniadau datganoli mae’n siŵr.”

Dadl yn y senedd

Brynhawn ddoe, bu Aelodau Cynulliad yn cynnal dadl tros gynnig a gafodd ei gyflwyno gan yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Roedd y cynnig dweud y dylai’r Cynulliad “alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei ddysgu i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddiwahân.”

Pryderon am y Cwricwlwm Newydd oedd wrth wraidd penderfyniad Siân Gwnellian i gyflwyno’r cynnig, ac ar dydd Mercher mi gafodd ei basio.

Bydd fersiwn terfynol o’r cwricwlwm addysg newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2020, ac mae fersiwn drafft eisoes wedi’i gyhoeddi. Mae Eryl Owain ei hun yn pryderu am y cwricwlwm.

Pryderon am y cwricwlwm

“Mae angen cefnogaeth, cyfarwyddyd ac arweiniad, llawer iawn cadarnach nag sy’n cael ei gynnig yn y cwricwlwm drafft presennol,” meddai Eryl Owain.

“Mae gennych chi ddatganiadau mawreddog digon derbyniol yn y cwricwlwm presennol. Datganiadau mawreddog am ddyheadau, egwyddorion ac uchelgeisiau’r cwricwlwm newydd.

“Ond dydy o ddim yn gwricwlwm yn yr ystyr bod yna osod allan beth sy’n mynd i gael ei ddysgu mewn ysgolion.

“Dw i’n gwybod eu bod eisiau caniatáu rhyddid i athrawon, a dw i ddim yn anghytuno â hynny.

“Ond dyna ydy’r pwyslais rŵan. Mae angen adnoddau, ac mae angen cefnogaeth ac athrawon i fedru gwneud hyn yn effeithiol.”