Bydd diwrnod hiraf y flwyddyn yn “sych ac yn braf” yng Nghymru – ond mae disgwyl stormydd a “glaw trwm” drennydd i hynny.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mi fydd y wlad yn profi “ysbeidiau heulog” ar dydd Gwener (Mehefin 21), a thywydd sych ar dydd Sadwrn (Mehefin 22).
Ond mi fydd y tywydd yn newid er y gwaethaf ar brynhawn dydd Sul (Mehefin 23).
Bellach mae’r Swyddfa wedi datgan y bydd rhybudd tywydd melyn mewn grym ledled Cymru a rhannau helaeth o Loegr erbyn diwedd y penwythnos.
Ac mae disgwyl i’r rhybudd hwnnw barhau mewn grym tan ddiwedd dydd Llun (Mehefin 24).
Mae yna “bosibilrwydd” y bydd llifogydd yn effeithio ar dai a busnesau, ac mae toriadau pŵer hefyd yn bosib.