Enillydd gwobr Ffuglen Saesneg cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 yw West gan Carys Davies (Granta).

Mae’r nofel sy’n dilyn antur y fforiwr amaturaidd Cy Bellman a’i ferch, Bess, sydd wedi ei gadael ar ôl ganddo.

Y beirniaid Saesneg eleni yw Sandeep Parmar, Louise Holmwood-Marshall, a Russell Celyn Jones.

Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr Cymraeg a Saesneg mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth heno (nos Iau, Mehefin 20) yng nghwmni’r awduron ar y rhestr fer, cyhoeddwyr a beirniaid y wobr ac aelodau o’r cyhoedd.