Prif enillydd gwobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn eleni yw yw Ailbhe Darcy gyda’i chyfrol Insistence (Bloodaxe Books). Hi hefyd yw enillydd Gwobr Roland Mathias yn y categori Barddoniaeth Saesneg.

Mae’r gyfrol yn archwilio teimladau’r awdur wrth fagu plentyn mewn byd llawn gwahaniadau, wedi ennill y Pigott Poetry Prize 2019 ac wedi cyrraedd rhestrau byrion y Times Poetry Now Award 2019 a’r TS Eliot Prize 2018.

Mae’r panel beirniadu Saesneg eleni yn cynnwys y bardd ac Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl, Sandeep Parmar; Pennaeth Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, Louise Holmwood-Marshall; a’r nofelydd ac Athro Emeritws Ysgrifennu Creadigol Coleg Birbeck, Prifysgol Llundain, Russell Celyn Jones.

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth heno (nos Iau, Mehefin 20).