Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros sydd wedi’i ddyfarnu’n enillydd categori Ffuglen, cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.

Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un lwyddiannus iawn i’r awdures sy’n wreiddiol o Riwlas ger Bangor ond sydd bellach yn byw yn Tywyn, Meirionnydd.

Mae Manon yn lenor a dramodydd llawn amser sydd wedi ysgrifennu dros ugain o lyfrau, ac wedi ennill Gwobr Tir na n-Og bedair gwaith.

Aelodau’r panel beirniaid Cymraeg eleni yw Dylan Ebenezer, Cathryn Charnell-Whyte ac Idris Reynolds.