Enillydd y wobr am y gyfrol Ffeithiol Greadigol yw Cymru mewn 100 Gwrthrych gan Andrew Green (Gwasg Gomer).

Mae’n gyfrol glawr caled, hardd, sy’n gosod cant o wrthrychau ac yn egluro eu rhan nhw yn hanes Cymru fel cenedl.

Fe gafodd Andrew Green ei eni yn Swydd Lincoln a’i fagu yn Ne Swydd Efrog, cyn dod i Gymru i hyfforddi i fod yn llyfrgellydd academaidd yn 1973.

Mae wedi dysgu Cymraeg, ac ef oedd nawfed Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng y blynyddoedd 1998 a 2013. Mae bellach wedi ymddeol.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Dylan Ebenezer, Cathryn Charnell-White ac Idris Reynolds.