Enillydd y categori Barddoniaeth yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 yw Cyrraedd a cherddi eraill gan Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas).

Mae’r gyfrol yn un bersonol, ac yn trafod yr achosion i orfoleddu a galaru wrth i’r bardd gyrraedd ei 70 oed y llynedd. Mae’n llawenhau ac yn tristáu wrth edrych yn ôl ar droeon y daith.

Fe fu Alan Llwyd yn trafod ei gyfrol mewn cyfweliad onest gyda golwg360 y llynedd.

Ar y panel beirniaid Cymraeg eleni mae’r darlledwr ac awdur chwaraeon, Dylan Ebenezer; Pennaeth Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Cathryn Charnell-White; a’r bardd, awdur a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Idris Reynolds.