Nofel y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llyedd yw enillydd gwobr ‘Barn y Bobol’ golwg360 yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 2020.

Mewn seremoni yn Aberystwyth heno (nos Iau, Mehefin 20) fe gyhoeddwyd mai cyfrol Manon Steffan Ros oedd wedi derbyn y nifer mwyaf o bleidleisiau mewn pôl a gynhaliwyd ar y wefan hon yn ystod misoedd Mai/Mehefin.

Roedd darllenwyr yn gallu dewis pa un o’r naw cyfrol Gymraeg a oedd wedi cyrraedd y tair rhestr fer – Ffuglen, Barddoniaeth a Ffeithiol Greadigol – oedd yr un y bydden nhw’n ei dewis yn ‘Llyfr y Flwyddyn’.

Mae Llyfr Glas Nebo wedi gwneud argraff fawr ers cael ei gwobrwyo yn mhrifwyl Caerdydd 2018, gan gyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n’Og eleni hefyd.

Er na lwyddodd i ennill y wobr honno, cyfrol arall gan Manon Steffan Ros ar gyfer pobol ifanc, Fi a Joe Allen, aeth â hi.