Mae gwasanaethau newydd, a fydd yn darparu cefnogaeth i ffoaduriaid ledled Cymru, yn cael eu lansio heddiw (dydd Iau, Mehefin 20).

Bydd y cyfan, sy’n rhan o’r prosiect ‘AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid’, ar gael mewn canolfannau yn y bedair ardal dosbarthu ffoaduriaid yng Nghymru – Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.

Bydd y canolfannau hyn, a fydd yn cael eu galw’n REACH+, yn cynnig cymorth i fwy na 520 o bobol er mwyn eu helpu i integreiddio i fywyd yng Nghymru.

Byddan nhw hefyd yn cynnig hyfforddiant iaith, yn ogystal â rhoi cymorth i bobol cael gwaith ac ehangu eu gwybodaeth am yr ardal yn lleol a’r diwylliant.

Cymru – “cenedl noddfa”

Mae lansiad prosiect ‘AilGychwyn’, sy’n cael ei gynnal yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn cyd-fynd ag Wythnos y Ffoaduriaid.

“Mae Wythnos y Ffoaduriaid yn gyfle pwerus i ddangos bod Cymru’n genedl noddfa i bobol sy’n chwilio am le diogel,” meddai’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt.

“Bydd prosiect AilGychwyn yn cyflwyno rhaglen uchelgeisiol ond integredig i ffoaduriaid sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw.

“Mae’n hynod bwysig ein bod yn helpu pobol i gael gwaith a manteisio ar gyfleoedd addysg – bydd hyn nid yn unig o fudd i bobol a’u teuluoedd, ond i’n cymdeithas a’n heconomi ehangach.”